Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 29 Mawrth 2012 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:35 - 11:20 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Dafydd Elis-Thomas (Cadeirydd) Mick Antoniw Rebecca Evans Russell George Vaughan Gething Llyr Huws Gruffydd Julie James William Powell David Rees |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Prof Kevin Anderson, Canolfan Tyndall Dr John Broderick, Canolfan Tyndall Councillor Stephen Churchman, Fforwm Awdurdodau Lleol Di-Niwclear (NFLA) Cymru John Harrison, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru Dave Jones, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Alun Davidson (Clerc) Catherine Hunt (Dirprwy Glerc) Graham Winter (Ymchwilydd) Nia Seaton (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Antoinette Sandbach. Nid oedd dim dirprwyon.
1.2 Cytunodd y Pwyllgor i aildrefnu trefn y busnes gan nad oedd Horizon Nuclear Power yn gallu dod i’r cyfarfod fel y bwriadwyd.
2. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 37
2.1 Penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o eitem 3.
3. Ymchwiliad i'r achos busnes dros un corff amgylcheddol - Llythyr drafft at Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar gynnwys ei lythyr at Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, ac y dylai fod ar ffurf llythyr cefndir ac adroddiad fel atodiad. Cytunodd y Pwyllgor hefyd y dylai’r adroddiad gael ei osod gerbron y Cynulliad.
4. Cynnig cydsyniad ynghylch y Gorchymyn, British Waterways Board (Transfer of Functions) Order
4.1 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy i geisio cael eglurhad o ran pam fod Llywodaeth y DU wedi penderfynu trosglwyddo swyddogaethau’r gorfforaeth gyhoeddus, Dyfrffyrdd Prydain, i ymddiriedolaeth elusennol a elwir yn Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd, yn hytrach na’r opsiynau eraill oedd ar gael.
5. Ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru - Tystiolaeth am ynni Niwclear
5.1 Nid oedd y tyst o Horizon Nuclear Power yn gallu dod i’r cyfarfod fel y bwriadwyd.
5.2 Ymatebodd y Cynghorydd Stephen Churchman i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor ynghylch polisi ynni a chynllunio yng Nghymru mewn perthynas ag ynni niwclear.
5.3 Cytunodd y Cynghorydd Churchman i ddarparu gwybodaeth ysgrifenedig i’r Pwyllgor ynghylch arbedion net a gyflawnwyd drwy fuddsoddi mewn effeithiolrwydd ynni.
5.4 Cytunodd y Pwyllgor y dylai’r Cadeirydd ysgrifennu at Kevin McCullough fel Cadeirydd Horizon Nuclear Power i gael atebion ysgrifenedig i’w gwestiynau ynghylch ynni niwclear.
6. Ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru - Tystiolaeth am nwy anghonfensiynol
6.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor ynghylch polisi ynni a chynllunio yng Nghymru mewn perthynas â nwy anghonfensiynol.
7. Papurau i'w nodi
7.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Mawrth.
7.1 Ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru - Papur gan y Pwyllgor Deisebau ar ei ymweliad rapporteur ar TAN 8
7.2 Nododd y Pwyllgor y papur gan y Pwyllgor Deisebau.
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.